Mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda wedi ymuno ag ORCHA (Y Sefydliad ar gyfer Adolygu Apiau Gofal ac Iechyd) i ddewis amrywiaeth o apiau iechyd digidol AM DDIM i gefnogi eich Iechyd Meddwl. Mae’r apiau hyn yn ymdrin ag ystod o bynciau addas yn ymwneud ag Iechyd Meddwl, gan gynnwys myfyrdod, cwsg, gorbryder, iselder a chael cymorth pan fyddwch ei angen fwyaf.

Mae Llyfrgell Apiau Hywel Dda yn cefnogi pob agwedd ar eich Iechyd a Lles, gan ei gwneud hi’n haws dechrau gofalu am eich iechyd a’ch lles eich hun. Gall unrhyw un ddefnyddio'r llyfrgell apiau, mae am ddim i bori ac nid oes angen i chi greu cyfrif. Rhowch gynnig arnyn nhw a dechrau teimlo'n well heddiw!

Chwiliwch yn Llyfrgell yr Apiau